Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (13 ) v8 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) |
Cwestiwn Brys Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Yng ngoleuni’r datblygiadau diweddaraf, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch lles y rhai sy’n byw mewn cartrefi sy’n cael eu rhedeg gan Southern Cross. EAQ(4)0019(HSS)
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Cynnig i gymeradwyo cyllideb atodol (15 munud) NDM4748 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30 , yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2011-12 , a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth 21 Mehefin 2011. Troednodyn: Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb floc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng amcangyfrif y symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a (v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c). Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau Ategol
Papur gan Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ymchwil: Cyllideb Atodol 2011-12
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda’i gilydd, ond gyda phleidlais ar wahân (15 munud) |
4. Gorchymyn (Diwygio) Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Cymru) 2011 NDM4781 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2011.
|
5. Rheoliadau Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011 NDM4782 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Rheoliadau Cynllun Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998 (Diwygio) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2011. Dogfennau
Ategol |
6. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011 (15 munud) NDM4783 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) Diwygio 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mehefin 2011. Dogfennau
Ategol
|
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog NDM4790 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Reol Sefydlog 12.20 (i) er mwyn caniatáu i NNDM4785 gael ei ystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mawrth 12 Gorffennaf 2011.
|
7. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth (15 munud) NNDM4785 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol
â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau pellach hynny y daethpwyd â hwy gerbron yn y
Bil Lleoliaeth sy’n ymwneud â Chynlluniau Adneuon
Tenantiaeth a thrwyddedu tai amlfeddiannaeth, i’r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn ychwanegol at y darpariaethau y
cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 a NNDM4722. Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad
|
8. Dadl ar gam-drin domestig (60 munud) NDM4784 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn ystyried y cynnydd a wnaed yn y flwyddyn gyntaf yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel; ac 2. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch unigolion a'u teuluoedd sy'n destun cam-drin domestig ac i roi cefnogaeth iddynt. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Nick Ramsay (Mynwy) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi ymhellach: a) Rôl ac arbenigedd mudiadau’r Trydydd Sector o ran mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, yn ogystal â darparu cymorth i ddioddefwyr a phlant; b) Yr angen i ymgysylltu â mudiadau’r Trydydd Sector yn llawn wrth fesur y cynnydd a gyflawnwyd yn erbyn blaenoriaethau Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i sicrhau bod dioddefwyr trais domestig yn parhau i gael mynediad at gyfiawnder.
|
9. Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru 2011-16 (90 munud) |
Cyfnod pleidleisio |
10. Dadl Fer (30 miunud) NDM4780 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Llyfr Blegywryd newydd? Adfer Awdurod Cyfreithiol i Gymru. |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011